Sioe weledol gyffrous sy’n archwilio ffiseg rocedi! Datblygwyd y sioe yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023, ac mae’n dangos y cysylltiad rhwng tair deddf gyntaf Newton a lansiadau rocedi.
Mae’r sioe yn cynnwys arddangosiadau dramatig, gan gynnwys diweddglo gydag ocsigen hylifol ac injan roced fyw.
Cynlluniwyd y sioe yn wreiddiol ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus, ond gellir ei haddasu’n hawdd i gyd-fynd ag anghenion cwricwlwm perfformiadau ysgol.